Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i’r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.

Gall diwydiannau trwm ryddhau hyd at hanner yr ynni y maent yn ei ddefnyddio fel gwres gwastraff. Mae gwaith dur Port Talbot yn cynhyrchu digon o wres i fodloni gofynion gwresogi 500,000 o gartrefi; byddai ei ddal a’i ailddefnyddio’n gwrthbwyso mwy na miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddeunydd storio gwres thermocemegol a ddatblygwyd gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

Bydd ymchwilwyr yn ystyried a ellir defnyddio’r deunydd hwn er mwyn dal, storio a rhyddhau gwres gwastraff o waith dur Port Talbot. Byddant yn archwilio’r posibiliadau technegol, economaidd ac amgylcheddol. Yr enw ar y prosiect 24 mis yw System Symudol o Storio Ynni fel Gwres (MESH).

Ein nod yn y pen draw yw gallu storio am gyfnodau hir yr ynni hwn a wastraffwyd yn flaenorol, a’i gludo i’r mannau lle y mae ei angen. Er enghraifft, gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwres carbon isel neu ddi-garbon ar gyfer prosesau diwydiannol neu er mwyn gwresogi adeiladau megis cartrefi, swyddfeydd neu ysgolion.” 

Meddai’r Prif Ymchwilydd Dr Jonathon Elvins

“Fel diwydiant ynni-ddwys, rydym yn mynd ati’n barhaus ar ein safle ym Mhort Talbot i lunio mesurau effeithlonrwydd ynni, ond mae bob amser yn anodd iawn ailafael mewn ynni gwres isel.

“Mae’r prosiect hwn yn cynnig y posibilrwydd o sicrhau gwerth o’r math hwn o wres, yn ogystal â helpu i leihau ôl troed CO2 y rhanbarth.”

Meddai Richie Hart, Rheolwr Technoleg Prosesu Tata Steel

Dyfarnwyd cyllid gwerth £250,000 i’r prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a FLEXISApp, sef partneriaeth rhwng prifysgolion Abertawe, Caerdydd a De Cymru, byd diwydiant a’r llywodraeth sy’n ceisio datblygu technolegau ynni arloesol. Bydd partneriaid y prosiect yn darparu arian cyfatebol ychwanegol gwerth £50,000. 

“Mae MESH yn brosiect partneriaeth cyffrous. Mae Dr Jon Elvins, ei dîm yng nghanolfan SPECIFIC a Tata Steel eisoes wedi gwneud cynnydd mawr wrth ymchwilio i storio gwres thermol.

Mae FLEXISApp yn gallu ariannu’n rhannol ddatblygiad masnachol technolegau sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio diwydiannol a lleihau nwyon tŷ gwydr.  

“Drwy adnoddau a chyllid ychwanegol FLEXISApp, gellir datblygu’r bartneriaeth hon ymhellach, er mwyn bwrw ymlaen â’r broses o greu technoleg werdd newydd a lleihau allyriadau carbon deuocsid ym myd diwydiant.”  

Meddai Prif Ymchwilydd FLEXISApp, yr Athro Dave Worsley

Welcome on-board Dr Brian Wee

Dr Wee has been seconded to FLEXISApp from the industrial partner, Maiple. His role at FLEXISApp is vital to the partnership project's success and will add industrial strength and knowledge to the project's research and academic focus.

Darllenwch Fwy

Gwres nid gwastraff: ymchwil newydd i ystyried ailddefnyddio gwres gwastraff o fyd diwydiant

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i’r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio. Gall diwydiannau trwm ryddhau hyd at hanner yr ynni y maent yn ei ddefnyddio fel gwres gwastraff. Mae gwaith dur Port Talbot yn cynhyrchu digon o

Darllenwch Fwy

Tair prifysgol o Gymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu datrysiadau sero net a sbarduno twf economaidd

Building on the success of the ongoing 5 year FLEXIS research programme, FLEXISApp brings together industry, government and expertise from three leading schools of engineering in Wales.

Darllenwch Fwy

Arian yr UE i gefnogi datblygiad masnachol economi carbon isel yng Nghymru

Bydd prosiect y FLEXISApp yn canolbwyntio ar ymchwil cydweithredol gyda busnesau bach a chanolig, arbenigwyr diwydiant a'r byd academaidd, i ddatblygu technoleg y gellir ei graddio'n llawn ar gyfer systemau ynni carbon isel.

Darllenwch Fwy

Ein Partneriaid