Bydd bron i £3 miliwn o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd dan arweiniad consortiwm tair prifysgol yng Nghymru.

FLEXISApp logo with partners Cardiff University, Swansea University and University of South Wales

Bydd prosiect y FLEXISApp yn canolbwyntio ar ymchwil cydweithredol gyda busnesau bach a chanolig, arbenigwyr diwydiant a’r byd academaidd, i ddatblygu technoleg y gellir ei graddio’n llawn ar gyfer systemau ynni carbon isel.

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen ymchwil 5 mlynedd barhaus FLEXIS a gefnogir gan £15 miliwn o gyllid yr UE.

FLEXIS Logo

Nod FLEXISApp yw manteisio ar y cyflenwad ymchwil presennol i ddatblygu system ynni gydnerth, fforddiadwy a diogel ledled Cymru, sydd â’r potensial i’w chymhwyso’n fyd-eang.

Bydd y safle ffisegol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, sy’n cael ei adnabod fel yr ardal arddangos FLEXIS, yn gweithredu fel hyb arddangos i brofi ac arddangos cynnyrch newydd fel rhannau cydran o systemau ynni gweithredol.

Mae gwaith mesur a monitro priodol yn helpu i brofi effeithlonrwydd cynnyrch newydd, gan eu sefydlu fel atebion masnachol hyfyw, ac annog buddsoddwyr lleol a rhyngwladol sy’n gweithio yn y diwydiant ynni cynaliadwy i’w defnyddio.

Gan weithio gyda chwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu’n symud i Gymru, bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu systemau a thechnolegau ynni carbon isel newydd, diogel a fforddiadwy, profedig, ar lefel fasnachol, y gellir eu gweithredu’n lleol yng Nghymru yn ogystal â ledled y byd. Bydd twf yr economi carbon isel yn helpu i fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol, gan leddfu tlodi trwy gynnig atebion cyflenwi mwy effeithlon a chost-effeithiol.


“Mae Cymru bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel canolfan wyddonol flaenllaw ar gyfer gwaith ymchwil i systemau ynni hyblyg. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddatblygu datrysiadau creadigol i heriau effeithlonrwydd ynni byd-eang, ac yn helpu i arwain y cyfnod pontio tuag at economi carbon isel, gwyrddach.

Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu cynnyrch a thechnolegau newydd ar gyfer eu cyflwyno i’r farchnad, gan sicrhau bod systemau ynni cynaliadwy ar gael yn fasnachol ar lefel hollol weithredol. Bydd yn hyrwyddo cynnyrch gwyrddach ac yn gwella ansawdd aer, yn ogystal â llywio twf economaidd a chreu swyddi newydd yng Nghymru yn y pen draw, gan greu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd.

Drwy hyrwyddo cydweithredu ac annog dulliau gweithredu cydgysylltiedig i broblemau newid hinsawdd, mae cyllid yr UE yn parhau i lywio cynnydd o ran gwaith ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, gan gynyddu cynhyrchiant a datblygu cyfleoedd cyflogaeth a busnes.”

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy’n gyfrifol am oruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn cymorth pellach gan yr UE i weithio ochr yn ochr â phartneriaid diwydiant, i ddatblygu technolegau ynni arloesol i gyflawni targedau sero net erbyn 2050.”

Bydd FLEXISApp yn bwrw ymlaen â gallu ymchwil ac arddangos FLEXIS ac yn ariannu datblygiad masnachol technolegau ynni yn rhannol, sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio diwydiannol a lleihau nwy tŷ gwydr.  

Mae’r dyfarniad yn dyst i ymroddiad y partneriaid sydd wrth graidd y prosiect hwn: Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cwmni dur Tata a Grŵp Ymchwil FLEXIS.”

Ychwanegodd yr Athro Hywel Thomas, prif ymchwiliwr arweiniol FLEXIS

Welcome on-board Dr Brian Wee

Dr Wee has been seconded to FLEXISApp from the industrial partner, Maiple. His role at FLEXISApp is vital to the partnership project's success and will add industrial strength and knowledge to the project's research and academic focus.

Darllenwch Fwy

Gwres nid gwastraff: ymchwil newydd i ystyried ailddefnyddio gwres gwastraff o fyd diwydiant

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i’r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio. Gall diwydiannau trwm ryddhau hyd at hanner yr ynni y maent yn ei ddefnyddio fel gwres gwastraff. Mae gwaith dur Port Talbot yn cynhyrchu digon o

Darllenwch Fwy

Tair prifysgol o Gymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu datrysiadau sero net a sbarduno twf economaidd

Building on the success of the ongoing 5 year FLEXIS research programme, FLEXISApp brings together industry, government and expertise from three leading schools of engineering in Wales.

Darllenwch Fwy

Arian yr UE i gefnogi datblygiad masnachol economi carbon isel yng Nghymru

Bydd prosiect y FLEXISApp yn canolbwyntio ar ymchwil cydweithredol gyda busnesau bach a chanolig, arbenigwyr diwydiant a'r byd academaidd, i ddatblygu technoleg y gellir ei graddio'n llawn ar gyfer systemau ynni carbon isel.

Darllenwch Fwy

Ein Partneriaid