Prif Ymchwilwyr

Professor Hywel Thomas for FLEXIS and FLEXISApp
Yr Athro Hywel R Thomas
Prif Ymchwilydd
Professor Alan Guwy from FLEXIS and FLEXISApp
Yr Athro Alan Guwy
Prif Ymchwilydd
Professor Phil Bowen of FLEXIS and FLEXISApp
Yr Athro Philip J Bowen
Prif Ymchwilydd
Professor David Worsley from FLEXIS and FLEXISApp
Yr Athro David Worsley
Prif Ymchwilydd

Tîm Rheoli

Dr Aleksandra Koj from energy system research projects FLEXIS and FLEXISApp
Dr Aleksandra Koj test
Rheolwr Prosiect
Yr Athro Hywel R Thomas
Prif Ymchwilydd

Mae'r Athro Hywel Thomas yn Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymru; Cyfarwyddwr adeg sefydlu’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol (GRC) yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO mewn Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy.

Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes “Prosesau Cypledig yn y Tir”. Mae ei waith wedi ymdrin ag ystod eang o faterion geo-amgylcheddol, o broblemau llif amlffiseg/geocemeg cypledig mewn priddoedd a chreigiau, i waredu gwastraff, gan gynnwys gwastraff niwclear. Mae pynciau eraill o ddiddordeb yn cynnwys adfywio tir a materion cynaliadwyedd yn gyffredinol. Mae'r diddordebau cyfredol yn canolbwyntio ar y maes geo-ynni, gyda phrosiectau mawr ar wres o'r ddaear, nwyeiddio glo tanddaearol, gwneud y mwyaf o nwy anghonfensiynol a dal a storio carbon mewn gwythiennau glo.
Yr Athro Alan Guwy
Prif Ymchwilydd

Yr Athro Alan Guwy yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Ynni a'r Amgylchedd (EERI) ym Mhrifysgol De Cymru a Phennaeth Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cynaliadwy (SERC). Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gynhyrchu hydrogen yn adnewyddadwy, optimeiddio eplesiad anaerobig i gynhyrchu bio-ynni ar ffurf hydrogen a nwy methan, bio-drydan gan ddefnyddio celloedd tanwydd microbaidd a systemau bio-electrocatalytig trin dŵr a dŵr gwastraff a dadansoddi llygryddion anhydrin.
Yr Athro Philip J Bowen
Prif Ymchwilydd

Yr Athro Phil Bowen yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd. Gweithiodd yn y Sector Ynni preifat am 5 mlynedd cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym 1994. Mae wedi cyhoeddi dros 200 o bapurau ac wedi bod yn ymchwilydd ar dros £30 miliwn o gontractau ymchwil. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghori Strategol RCUK ar Ynni a Rhaglen Gydweithredu Technoleg IEA mewn ‘Hylosgi Glân ac Effeithlon’. Roedd yn Gyfarwyddwr Ysgol Peirianneg Caerdydd 2012-2015 ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, IMechE a'r Sefydliad Ffiseg.
Yr Athro David Worsley
Prif Ymchwilydd

Yn ystod ei yrfa academaidd, mae'r Athro Dave Worsley wedi creu portffolio gwerth miliynau o bunnoedd o brosiectau consortiwm cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd deunyddiau datblygedig, ynni’r haul ac ymchwil i ddatblygiad technolegau a deunyddiau arloesol i fwydo i'r gadwyn gyflenwi fyd-eang. Hyd yn hyn mae wedi arwain datblygiad o fwy na £120 miliwn o fuddsoddiad mewn hyfforddiant cydweithredol, ymchwil ac arloesi.

Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd - gyda diwydiant adeiladu'r DU yn cyfrif am 60% o'r holl ddeunyddiau a ddefnyddir ac adeiladau hyd at 40% o'n hallyriadau carbon - mae ffocws Dave ar ddatgarboneiddio'r gadwyn gyflenwi deunyddiau ac ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau a thrafnidiaeth.

Am ei waith, yn 2020, sicrhaodd Dave ddwy wobr hefyd, Gwobr Dewi Sant am Wyddoniaeth ac Arloesi gan Lywodraeth Cymru a Medal Aur Bessemer gan y Sefydliad Deunyddiau, am waith ymchwil ac arloesi yn y sector dur a metelau.
Dr Aleksandra Koj test
Rheolwr Prosiect

Aleksandra yw Rheolwr Prosiect cyfredol FLEXIS a bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr prosiect blaenorol Seren rhwng 2009 a 2015. Mae hi’n gyfrifol am gyflawni rheolaeth a gweinyddiaeth gyffredinol y prosiect, sy’n cynnwys adrodd i WEFO, ein sefydliad cyllido.

Cyn ei gwaith ar FLEXIS a Seren, bu’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol (GRC) ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cymrawd Ymchwil UNESCO ac Ymgynghorydd UNIDO. Roedd Aleksandra hefyd yn rhan o gyfres o brosiectau a ariannwyd gan Fanc y Byd. Wedi graddio'n wreiddiol fel Cymdeithasegydd, cwblhaodd PhD wedyn ym mhwysigrwydd cyfalaf cymdeithasol wrth adfywio cymunedau mwyngloddio. Mae gan Aleksandra ddiddordeb arbennig mewn materion rhywedd, gweithgareddau entrepreneuraidd a datblygu economaidd.

Ein Partneriaid