Wedi’i ariannu gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru, mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd y byd academaidd, diwydiant a’r llywodraeth i ddatblygu technolegau ynni arloesol i gyflawni sero net erbyn 2050.

Mae’r prosiect yn cefnogi sawl menter gan Lywodraeth Cymru a’r DU, gan gynnwys ‘Gwyddoniaeth i Gymru’, ‘Arloesi Cymru’ a Strategaeth Twf Glân y DU.

Beth fydd y FLEXISApp yn ei wneud?

Bydd FLEXISApp yn hybu atebion sero net drwy ffurfio partneriaethau diwydiannol cryf, sy’n defnyddio ymchwil ac adnoddau blaenllaw’r byd FLEXIS mewn systemau ynni, i gynhyrchu twf economaidd a gwyrdd i Orllewin Cymru a’r Cymoedd.

Gyda diwydiant yn cyfrannu tua 25% at allyriadau C02 y DU, bydd FLEXISApp yn bwrw ymlaen â gallu ymchwil ac arddangos FLEXIS ac yn ariannu datblygiad masnachol technolegau ynni yn rhannol, sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio diwydiannol a lleihau nwyon tŷ gwydr.

Beth yw llwyddiant?

• Ffurfio partneriaethau diwydiannol cryf
• Technoleg a chynhyrchion arloesol dan batent, sy’n gwneud y defnydd gorau o systemau ynni carbon isel
• Ardal arddangos a gydnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth
• Sylfaen ymchwil Cymru yn tyfu mewn cryfder ac amrywiaeth
• Buddsoddiadau gan gwmnïau sy’n symud i Gymru
• Nifer o swyddi a chwmnïau’n cael eu creu

Bydd FLEXISApp yn arwain adferiad gwyrdd ar ôl Covid-19 a bydd yn ysgogi twf gwyrdd ac economaidd sylweddol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd, cryfhau sylfaen wybodaeth a gallu arloesol cwmnïau Cymru, a datblygu atebion sero net i gyrraedd targedau 2030, 2040 a 2050.

Ein Partneriaid