Mae FLEXISApp yn rhaglen ymchwil, datblygu ac arloesi gwerth £4M sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau ynni arloesol i gyflawni targedau sero net erbyn 2050.
Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen ymchwil 5 mlynedd barhaus FLEXIS, mae FLEXISApp yn dwyn ynghyd ddiwydiant, llywodraeth ac arbenigedd o dair ysgol beirianneg flaenllaw yng Nghymru.
FLEXISApp yw ail brosiect partneriaeth y tîm cydweithredol gyda’r byd academaidd yng Nghymru i fynd i’r afael â datgarboneiddio a datblygu atebion byd-eang i’r newid yn yr hinsawdd.
“Mae dyfarnu cyllid Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ar gyfer FLEXISApp yn dyst i ymrwymiad y partneriaid sydd wrth wraidd prosiect FLEXIS.
Trwy barhau i weithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, gallwn adeiladu ar y gallu o’r radd flaenaf sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgolion Cymru a rhannu’r adnoddau blaenllaw a gafodd eu creu trwy FLEXIS, i ddatblygu technolegau ynni arloesol ochr yn ochr â’n partneriaid diwydiannol.
Trwy bartneriaethau diwydiannol cryf, bydd FLEXISApp yn sbarduno datrysiadau sero net sy’n defnyddio ymchwil ac adnoddau blaenllaw yn rhyngwladol mewn systemau ynni, i gynhyrchu twf economaidd a gwyrdd i Orllewin Cymru, y Cymoedd ac yn fyd-eang.”
Yr Athro Hywel Thomas, Prifysgol Caerdydd
“Mae partneriaeth FLEXISApp yn rhoi cyfle inni symud ymlaen â’r gallu ymchwil ac arddangos gan FLEXIS i sbarduno datblygiad masnachol technolegau ynni, sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio diwydiannol a lleihau nwy tŷ gwydr.
Trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid diwydiannol mae gennym gyfle unigryw i wella ein gwaith ymchwil i ddatblygu atebion a fydd yn eu helpu gyda’u huchelgeisiau sero net.”
Yr Athro Alan Guwy, Prifysgol De Cymru
“Ochr yn ochr â’r bartneriaeth academaidd gref sy’n ffurfio sylfaen FLEXISApp, mae ein partneriaethau diwydiannol â phobl fel Tata Steel a Maiple o’r pwys mwyaf ar gyfer cyflwyno rhaglenni. Gyda’i gilydd maent yn rhoi’r nerth a’r gefnogaeth inni i sbarduno ymchwil a thechnoleg newydd fel rhan o’n prosiectau ymchwil.”
Yr Athro David Worsley, Prifysgol Abertawe