Mae’r ganolfan arbenigedd mewn data a systemau ynni clyfar yn brosiect partneriaeth FLEXISApp gyda Phrifysgol Caerdydd a chwmni meddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI), Maiple. Trwy ddod â’r byd academaidd a diwydiant ynghyd, bydd y prosiect yn datblygu algorithmau dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial blaenllaw’r byd, sy’n hybu atebion ynni clyfar i’w defnyddio’n fyd-eang.

Un o gonglfeini’r atebion hyn fydd y gallu i ffrwyno’r symiau enfawr o ddata sydd eisoes yn bodoli mewn rhai achosion, a chyfuno’r setiau data hyn â data newydd a gynhyrchir gan y cydweithredwyr yn FLEXIS. Bydd Maiple yn darparu prototeipiau ac yn datblygu a phrofi atebion masnachol yn gyflym, sy’n sbarduno canlyniadau llwyddiannus. Bydd cryn dipyn o’r gweithgaredd hwn yn digwydd yng Nghanolfan Hyfforddi Doethurol AI Prifysgol Abertawe.

Beth mae’r prosiect yn gobeithio’i gyflawni?

Gobaith y prosiect yw gwella fforddiadwyedd ynni glân trwy greu technoleg newydd i ddarparu atebion rhagweld ynni aml-sector. Bydd y dechnoleg hon yn helpu gyda datgarboneiddio diwydiannol ac yn gwneud gwahaniaeth cynaliadwy yn yr amgylchedd lleol, ledled Cymru, y DU a’r byd.

Bydd FLEXISApp yn canolbwyntio’n fawr ar gynyddu cyfleoedd cyflogaeth a denu’r dalent orau i Orllewin Cymru a’r Cymoedd. Cyn bo hir bydd y prosiect hwn yn recriwtio (rolau) i helpu i siapio’r sector AI a dysgu peirianyddol sy’n prysur dyfu.

O ganlyniad i gynnyrch ac IP a ddarperir trwy’r prosiect hwn, disgwylir buddsoddiad dilynol sylweddol gan bartneriaid a chwmnïau technoleg blaenllaw ym maes AI a dysgu peirianyddol, gan gynnwys Amazon, Nvidia a Mathworks.

Arweinir y prosiect hwn gan y Prif Ymchwilydd Hywel Thomas a Francis Griffiths, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Maiple.

Erbyn 2023, bydd y prosiect hwn yn:

  • Creu Eiddo Deallusol sy’n gysylltiedig ag algorithmau rheoli adeiladau ynni clyfar
  • Lansio sawl cynnyrch arloesol newydd i’r farchnad ar gyfer rheoli ynni clyfar
  • Creu a lansio cynnyrch ynni clyfar wedi’i dargedu at ddiwydiannau cyfagos fel gweithgynhyrchu, proses a chyfleustodau

Ein Partneriaid